Skip to main content
- Archebu a Thalu: Mae angen blaendal na ellir ei ad-dalu i sicrhau eich archeb. Rhaid talu'r balans sy'n weddill mewn pedwar taliad cyfartal, gyda'r taliad olaf yn ddyledus heb fod yn hwyrach na 28 diwrnod (pedair wythnos) cyn y digwyddiad. Mae'r holl brisiau yn cynnwys TAW.
- Polisi Canslo: Rhaid canslo yn ysgrifenedig. Os byddwch yn canslo eich digwyddiad fwy na 28 diwrnod (4 wythnos) cyn dyddiad y digwyddiad, byddwch yn colli'ch blaendal. Os byddwch yn canslo eich digwyddiad lai na 28 diwrnod (4 wythnos) cyn dyddiad y digwyddiad, byddwch yn atebol am gost lawn y digwyddiad.
- Manylion Digwyddiad: Rhaid cadarnhau manylion terfynol, gan gynnwys nifer y gwesteion, dewisiadau bwydlenni, a threfniadau eistedd, ddim hwyrach na 14 diwrnod (pythefnos) cyn y digwyddiad. Gall unrhyw newidiadau a wneir ar ôl y cyfnod hwn arwain at daliadau eraill.
- Atebolrwydd: Ni fydd Tŷ Bryngarw yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod i eiddo personol nac am unrhyw anaf a achosir gan unrhyw westai tra ar y safle.
- Ymddygiad: Mae Tŷ Bryngarw yn cadw'r hawl i wrthod derbyn neu ddiarddel unrhyw westai y mae ei ymddygiad yn cael ei ystyried yn amhriodol neu'n aflonyddgar.
- Force Majeure: Ni fydd Tŷ Bryngarw yn atebol am fethu â chyflawni ei rwymedigaethau oherwydd digwyddiadau y tu hwnt i'w reolaeth resymol, gan gynnwys trychinebau naturiol, streiciau a rheoliadau'r llywodraeth.