Polisi Preifatrwydd
Nod y polisi preifatrwydd hwn yw amlinellu sut mae Grŵp Awen yn casglu, yn prosesu ac yn cadw'r data personol y gallech ei roi i ni pan fyddwch yn defnyddio’n gwefannau, pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer ein e-bost, neu pan fyddwch yn prynu cynnyrch neu'n defnyddio gwasanaeth.
Nid yw ein gwefannau wedi'u bwriadu ar gyfer plant o dan 16 oed, ac nid ydym yn casglu data, yn fwriadol, sy'n ymwneud â phlant, ac eithrio:
- Theatr Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr
- Aelodau Llyfrgelloedd Awen Ifanc, sy'n cael ei ddarparu gan rieni/gwarcheidwaid aelodau
- Mewngofnodi i Wifi gwesteion
Pwy Ydym Ni
Dyma’r wybodaeth gyfreithiol lawn:
Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen
Elusen gofrestredig rhif 1166908 yng Nghymru
Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn gwmni sydd wedi'i gofrestru yng Nghymru yn Nhŷ Bryngarw, Parc Gwledig Bryngarw, Brynmenyn, CF32 8UU Rhif Cofrestru Cwmni 9610991
Mae Awen Trading Ltd yn gwmni sydd wedi'i gofrestru yng Nghymru yn Nhŷ Bryngarw, Parc Gwledig Bryngarw, Brynmenyn CF32 8UU. Rhif cofrestru'r cwmni 09619638.
At ddibenion deddfwriaeth diogelu data, y Rheolwr Data yw Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen (rhif cofrestru ZA186896, Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth).
Bydd unrhyw ddata personol ond yn cael ei gasglu yn unol â'r polisi preifatrwydd hwn.
Gall Awen newid y polisi hwn o bryd i'w gilydd drwy ddiweddaru'r dudalen hon a chaiff rhestr o newidiadau eu dangos mewn dogfen ar wahân, ac mae modd gofyn amdani gan y Pennaeth Pobl.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r hysbysiad hwn, anfonwch e-bost at: support@awen-wales.com
Rheolwr Data a Manylion Cyswllt
Awen (y cyfeirir ati fel "ni" neu "ein" yn yr hysbysiad hwn) yw rheolwyr eich data personol.
Mae gennych hawl i wneud cwyn ar unrhyw adeg i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), awdurdod goruchwylio’r DU ar gyfer materion diogelu data (www.ico.org.uk). Fodd bynnag, byddem yn hoffi'r cyfle i ymdrin â'ch pryderon yn y lle cyntaf, cyn i chi gysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Dolenni Trydydd Partïon
Gall ein gwefannau gynnwys dolenni i wefannau trydydd partïon, ategion ac apiau. Drwy glicio ar y dolenni hyn, efallai y byddwch yn caniatáu i drydydd partïon gasglu neu rannu data amdanoch chi. Nid ydym yn rheoli gwefannau’r trydydd partïon hyn, ac rydym yn eich annog i ddarllen hysbysiad preifatrwydd pob gwefan yr ydych chi'n ymweld â hi.
Y Data yr Ydym Ni’n ei Gasglu
Rydym yn casglu data yr ydych chi’n ei ddarparu ar lafar, yn ddigidol ac yn ysgrifenedig pan fyddwch chi'n: (a) prynu tocynnau neu’n archebu ar gyfer ein digwyddiadau neu weithdai; (b) llenwi ffurflenni ar ein gwefan neu wyneb yn wyneb; (c) gwneud rhoddion; (ch) cofrestru ar gyfer cylchlythyr; (d) gwneud cais am swydd gyda ni; (dd) gweithio i ni; (e) gwirfoddoli gyda ni; (f) holi am archebu priodas, trefnu achlysur corfforaethol neu arbennig; (ff) aros gyda ni (g) ymuno â'n gwasanaeth llyfrgell; (ng) mynychu ein gwasanaeth hyfforddeion; (h) gweithio i ni e.e. gweithwyr llawrydd; (i) rhyngweithio â ni drwy'r cyfryngau cymdeithasol, e-bost, post, tecst neu ffôn, neu’n defnyddio un o'n cwcis; (j) cofrestru ar gyfer ein wifi gwesteion a’i ddefnyddio; (l) cytuno i gael eich ffotograffio neu ffilmio yn ystod neu am eich profiad oni bai bod buddiant dilys; (ll) darparu astudiaeth achos, neu (ll) cwblhau arolwg neu holiadur adborth (oni bai ei fod yn ddienw).
Mae’n bosibl y byddwn yn casglu, defnyddio, cadw a throsglwyddo'r data personol canlynol amdanoch:
- Data hunaniaeth e.e. enw cyntaf, cyfenw, teitl.
- Data cyswllt e.e. cyfeiriad bilio, cyfeiriad preswyl, rhifau ffôn, cyfeiriad e-bost.
- Data ariannol e.e. manylion cardiau talu.
- Data trafodion e.e. manylion tocynnau, cynhyrchion a gwasanaethau yr ydych chi wedi'u prynu neu’u benthyg gennym ni.
- Data technegol e.e. cyfeiriad MAC dyfais, cyfeiriad IP, math o borwr, gosodiadau lleoliad, dewisiadau cwcis (gweler isod).
- Data proffil e.e. enw defnyddiwr a chyfrinair, hanes prynu neu fenthyg, eich diddordebau, ymatebion i arolygon (oni bai eu bod yn ddienw).
- Data defnyddio e.e. sut yr ydych chi'n defnyddio ac yn rhyngweithio â'n gwefannau, cynhyrchion a gwasanaethau a'ch presenoldeb yn ein digwyddiadau.
- Data marchnata a chyfathrebu e.e. os ydych chi eisiau cael deunydd marchnata gennym ni a'n trydydd partion a sut yr hoffech chi ei gael, a'ch dewisiadau cyfathrebu.
- Delweddau teledu cylch cyfyng
Rydym hefyd yn casglu data categori arbennig:
- Gwybodaeth feddygol ac iechyd.
- Data cydraddoldeb e.e. ethnigrwydd, anabledd.
Os ydym eisiau datgelu gwybodaeth yr ymgeisydd i drydydd parti, er enghraifft i gael geirda neu ddatgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, ni fyddwn yn gwneud hynny heb roi rhybudd ymlaen llaw i chi, oni bai bod y datgeliad yn ofynnol yn ôl y gyfraith.
Pam y mae angen yr wybodaeth hon arnom
Byddwn ond yn defnyddio’ch data personol pan fod caniatâd cyfreithiol i ni wneud hynny, er enghraifft:
- Pan fydd angen i ni ddarparu gwasanaeth contractiol i chi e.e. prynu tocynnau neu fenthyg llyfrau;
- Pan fyddwch chi wedi dewis cael gwybodaeth farchnata;
- Pan ei fod yn angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau dilys ac nid yw’ch hawliau sylfaenol yn trechu’r buddiannau hyn; a
- Pan fydd angen i ni gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol neu reoleiddiol.
Os na fyddwch yn darparu'r data pan yr ydym yn gofyn amdano, efallai na fyddwn yn gallu cyflawni'r contract sydd gennym, neu ein bod yn ceisio ymrwymo iddo gyda chi, er enghraifft, lle mae angen i chi archebu tocynnau digwyddiad. Yn yr achos hwn, efallai y bydd yn rhaid i ni ganslo cynnyrch neu wasanaeth sydd gennych chi gyda ni.
O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae angen sail gyfreithiol ar waith i brosesu’ch data. Mae’n bosibl y byddwn yn prosesu’ch data personol ar gyfer mwy nag un sail gyfreithlon gan ddibynnu ar y rheswm penodol yr ydym yn defnyddio eich data ar ei gyfer. Anfonwch e-bost atom ar support@awen-wales.com os hoffech chi gael manylion am y sail gyfreithiol benodol yr ydym yn ei defnyddio i brosesu’ch data personol.
Rydym yn casglu, defnyddio a rhannu data cyfanredol megis data ystadegol neu ddemograffig at ddibenion monitro. Gall data cyfanredol ddeillio o'ch data personol ond bydd yn ddienw fel nad yw'n datgelu'ch hunaniaeth yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.
Sut yr ydym yn casglu’ch data personol
Rydym yn defnyddio gwahanol ddulliau i gasglu data oddi wrthych ac amdanoch chi gan gynnwys:
Rhyngweithio uniongyrchol
Efallai y byddwch yn rhoi eich data hunaniaeth, cyswllt, ariannol a chategori arbennig i ni drwy gyfathrebu â ni wyneb yn wyneb, dros y ffôn, drwy e-bost neu ar-lein drwy ein gwefannau.
Mae hyn yn cynnwys pan fyddwch chi’n:
- Archebu tocynnau;
- Rhoi ar gadw, neu’n adnewyddu llyfr neu eitem arall y llyfrgell;
- Creu cyfrif ar ein gwefannau;
- Tanysgrifio i'n cylchlythyrau;
- Gofyn bod deunydd marchnata yn cael ei anfon atoch;
- Llenwi arolwg neu roi adborth;
- Cael eich ffilmio, neu fod eich llun yn cael ei dynnu;
- Darparu astudiaeth achos am eich profiad;
- Gwneud cais am swydd yn Awen;
- Gwirfoddoli gyda ni;
- Cael eich cyfeirio at wasanaethau hyfforddeion;
- Rhan o adrodd ar Ddamweiniau a Digwyddiadau;
- Cofrestru ar gyfer a/neu’n defnyddio ein gwasanaeth wifi gwesteion;
- Darparu gwasanaethau e.e. perfformwyr, artistiaid; a
- Chofrestru ar gyfer hyfforddiant neu weithgareddau eraill.
Technolegau neu ryngweithiadau awtomataidd
Pan fyddwch yn rhyngweithio â'n gwefannau, efallai y byddwn yn casglu. Yn awtomatig, data technegol am eich cyfarpar, ymddygiad pori a gweithredoedd. Rydym yn casglu'r data personol hwn gan ddefnyddio cwcis a thechnolegau tracio eraill tebyg, fel picseli. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth hon i weinyddu ein gwefannau, tracio’ch symudiadau o amgylch ein gwefannau, darparu hysbysebion wedi'u targedu a chasglu gwybodaeth ddemograffig a daearyddol amdanoch chi.
Efallai y byddwn yn cael data technegol amdanoch os byddwch yn ymweld â gwefannau eraill sy'n defnyddio’n cwcis neu dechnolegau tracio, fel system rheoli'r llyfrgell.
Dyma enghreifftiau o'r cwcis yr ydyn ni'n eu defnyddio:
- Cwcis dewis – i gofio eich dewisiadau a'ch gosodiadau i ddarparu gwell wasanaeth i chi.
- Cwcis diogelwch – at ddibenion diogelwch.
- Cwcis hysbysebu – i roi hysbysebion i chi a allai fod yn berthnasol i chi.
- Cwcis swyddogaeth – i roi gwell swyddogaeth a phersonoli.
- Cwcis targedu – i ddatblygu proffil o'ch diddordebau a dangos hysbysebion perthnasol i chi ar wefannau eraill.
- Cwcis y cyfryngau cymdeithasol – i'ch galluogi i rannu ein cynnwys gyda'ch ffrindiau a'ch rhwydweithiau.
Gallwch osod eich porwr i wrthod pob cwci porwyr, neu rai ohonynt, neu i'ch rhybuddio chi pan fydd gwefannau'n gosod neu'n cyrchu cwcis. Os ydych chi'n eu hanalluogi neu'n gwrthod cwcis, nodwch y gallai rhannau o'n gwefannau ddod yn anhygyrch neu beidio â gweithredu'n iawn.
Enghreifftiau o'r picseli yr ydyn ni'n eu defnyddio:
- Pan fyddwn yn anfon cylchlythyrau e-bost at ein tanysgrifwyr, mae'r offer yr ydym yn eu defnyddio fel Mailchimp a Dotdigital yn ychwanegu 'picsel' yn awtomatig i roi data i ni am 'gyfraddau agor' a 'chyfraddau clicio'.
- Caiff picseli Meta eu defnyddio i sicrhau ein bod yn dangos ein hysbysebion Facebook, Instagram a WhatsApp i'r bobl gywir ac yn mesur canlyniadau'r hysbysebion hyn trwy ddeall beth sy'n digwydd pan fydd pobl yn eu gweld.
- Caiff picseli trosi eu defnyddio i dracio pryniant ar y wefan, cofrestru ar gyfer cylchlythyrau, clicio botymau, llenwi ffurflenni, lawrlwytho dogfennau, galwadau a negeseuon WhatsApp sy’n cael eu hanfon at rifau ffôn ar ein gwefannau, negeseuon e-bost sy’n cael eu hanfon at gyfeiriadau e-bost ar ein gwefannau.
Efallai y byddwn yn cael data personol amdanoch gan wahanol drydydd partïon, platfformau’r cyfryngau cymdeithasol a chyd-bartneriaid marchnata, gan gynnwys:
- Data hunaniaeth o Facebook, asiantau tocynnau eraill, megis Pipedrive, Catersoft.
- Data cyswllt o Facebook, Dotdigital, Fydelia, asiantau tocynnau eraill.
- Data proffil o Facebook, QuestionPro.
- Data trafodion o Spektrix, SirsiDynix, crowdEngage.
Sut yr ydym yn defnyddio Eich Data Personol
Byddwn yn defnyddio data personol:
- I’n galluogi ni i ddarparu'r gwasanaethau a'r wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdanynt gennym ni, e.e. tocynnau, derbynebau, anfonebau, gwasanaethau hyfforddeion, digwyddiadau, gweithgareddau ac ati;
- Er mwyn galluogi trydydd partïon i brosesu trafodion cardiau credyd yn ddiogel, rydym yn anfon eich gwybodaeth bilio at drydydd partïon i brosesu eich archebion a'ch taliadau cardiau credyd;
- I anfon negeseuon am y gwasanaeth atoch, gan gynnwys newidiadau dros dro neu barhaol i'n gwasanaethau, a newidiadau i'r polisi hwn;
- I gyflawni'r contract yr ydym ar fin ymrwymo iddo, neu eisoes wedi ymrwymo iddo, a gorfodi cydymffurfio â'n telerau ac amodau;
- I’n helpu ni i ddeall sut mae ein gwefan a'n gwasanaethau'n cael eu defnyddio;
- I'n galluogi ni i anfon gwybodaeth atoch chi, naill ai drwy e-bost neu'r post, a allai fod o ddiddordeb i chi, yn unol â'ch dewisiadau marchnata;
- I ddangos eich profiad/adborth i bartneriaid ariannu a rhanddeiliaid eraill e.e. gydag astudiaethau achos, tystebau ar ffilm, ffotograffau;
- Lle bo'n angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau dilys (neu fuddiannau trydydd partïon) ac nid yw eich buddiannau a'ch hawliau sylfaenol chi’n trechu’'r buddiannau hynny.
- Lle mae angen i ni gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol, broffesiynol, ddiogelwch neu reoleiddiol.
- Lle mae angen i ni ddiogelu rhag atebolrwydd cyfreithiol a/neu ddiogelu ac amddiffyn ein hawliau neu eiddo.
- Mae delweddau teledu cylch cyfyng yn cael eu cadw ar ein camerâu i wella diogelwch a helpu i atal a chanfod trosedd ac anhrefn. Oherwydd natur gwasanaethau Awen efallai y bydd rheswm hefyd dros ddefnyddio deunydd teledu cylch cyfyng at ddibenion eraill megis diogelu oedolion a phlant agored i niwed neu weithgarwch troseddol posibl.
- Gofynnir am ddata ymgeiswyr / data personol gan ymgeiswyr i fonitro ystadegau recriwtio ac eithrio pan fydd ymgeisydd yn llwyddiannus. Pan fydd ymgeisydd yn dod yn gyflogai, mae'r wybodaeth sydd wedi’i darparu ganddo yn dod yn rhan o'i ffeil bersonol. Mae hysbysiad preifatrwydd ar wahân ar waith ar gyfer prosesu data gweithwyr.
- Er mwyn rheoli eich lleoliad fel hyfforddai a darparu'r gwasanaethau a chymorth angenrheidiol.
Byddwn ni ond yn defnyddio’ch data personol at y dibenion y gwnaethom ni ei gasglu ar eu cyfer, oni bai ein bod ni o'r farn resymol bod angen i ni ei ddefnyddio am reswm arall a bod y rheswm hwnnw'n gydnaws â'r diben gwreiddiol. Os bydd angen i ni ddefnyddio’ch data personol at ddiben nad yw'n gysylltiedig, byddwn yn esbonio'r sail gyfreithiol sy'n ein galluogi ni i wneud hynny.
Marchnata
Eich dewis chi yw p'un ai ydych chi'n cael gwybodaeth farchnata gennym ni a gallwch optio allan ar unrhyw adeg. Byddwn yn anfon yr wybodaeth hon atoch chi drwy e-bost, post neu neges destun. Efallai y byddwn ni hefyd yn anfon e-bost uniongyrchol atoch yr ydym o’r farn y gallai fod o ddiddordeb i chi. Ni fyddwn yn cysylltu â chi at ddibenion marchnata oni bai eich bod wedi rhoi eich caniatâd i ni. Os nad ydych yn dymuno clywed gennym mwyach, anfonwch e-bost at marketing@awen-wales.com.
Mae ein holl farchnata drwy e-bost yn rhoi'r dewis i chi optio allan o dderbyn gwybodaeth arall gennym ni. Fel sydd wedi’i nodi uchod, byddwch yn dal i dderbyn negeseuon e-bost gennym ni os oes dal angen hynny i ddarparu gwasanaeth contractiol i chi e.e. prynu tocynnau neu fenthyg llyfrau, neu os ydych chi wedi cyflwyno ffurflen ymholiad ar-lein ac mae angen i ni ymateb.
Dadansoddeg
Pan fyddwch yn ymweld â'n gwefan, rydym yn defnyddio gwasanaeth trydydd partïon, Google Analytics, i gasglu gwybodaeth safonol logio’r rhyngrwyd a manylion patrymau ymddygiad ymwelwyr. Rydym yn gwneud hyn i ddarganfod pethau fel nifer yr ymwelwyr sy’n ymweld â gwahanol rannau o’r safleoedd. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth i adrodd ar nifer yr ymwelwyr, ac i wneud gwelliannau i'n gwasanaeth.
Mae'r wybodaeth hon yn cael ei chasglu dim ond os yw ymwelwyr yn optio i mewn. Mae'r wybodaeth sy’n cael ei chasglu yn cael ei hystyried yn ddata personol, oherwydd bod Google yn neilltuo dyfais adnabod unigryw i bob ymwelydd. Nid ydym yn ceisio darganfod hunaniaeth y rhai sy'n ymweld â'n gwefannau, ac nid ydym yn caniatáu i Google wneud hynny chwith.
Ail-farchnata
Rydym yn ail-farchnata gwasanaethau i hysbysebu ar wefannau trydydd partïon i chi ar ôl i chi ymweld â'n gwefannau ni. Rydym ni, a'n cyflenwyr trydydd parti, yn defnyddio cwcis i lywio, optimeiddio a gweinyddu hysbysebion yn seiliedig ar eich ymweliadau blaenorol â'n gwefannau.
Mae gwasanaeth ail-farchnata Google Ads yn cael ei ddarparu gan Google Inc. Gallwch optio allan o Google Analytics ar gyfer Hysbysebion Arddangos ac addasu hysbysebion Rhwydwaith Arddangos Google trwy ymweld â thudalen Google Ads Settings: http://www.google.com/settings/ads. Mae Google hefyd yn argymell gosod Google Analytics Opt-Out Browser Add-on - https://tools.google.com/dlpage/gaoptout - ar gyfer eich porwr gwe. Mae Google Analytics Opt-Out Browser Add-on yn rhoi'r gallu i ymwelwyr atal eu data rhag cael eu casglu a'u defnyddio gan Google Analytics. Am fwy o wybodaeth am arferion preifatrwydd Google, ewch i dudalen we Preifatrwydd a Thelerau Google: http://www.google.com/intl/en/policies/privacy/
Mae gwasanaeth ail-farchnata Facebook yn cael ei ddarparu gan Meta. Gallwch ddysgu mwy am hysbysebu’n seiliedig ar ddiddordeb gan Facebook drwy ymweld â https://www.facebook.com/help/164968693837950.
I optio allan o hysbysebion sy'n seiliedig ar ddiddordeb Facebook, dilynwch y cyfarwyddiadau hyn gan Facebook: https://www.facebook.com/help/568137493302217. Am fwy o wybodaeth am arferion preifatrwydd Facebook, ewch i Bolisi Data Facebook: https://www.facebook.com/privacy/explanation
Ffotograffiaeth
Rydym wedi asesu bod ein 'sail gyfreithlon' ar gyfer ffotograffiaeth, fideograffeg a recordio sain yn ein digwyddiadau a'n lleoliadau cyhoeddus yn un o 'fuddiant dilys'. Gall cynnwys wedi'i recordio gael ei ddefnyddio at ddibenion marchnata / hyrwyddo (digidol a thraddodiadol) a gwerthuso. Mae gennych chi’r hawl i optio allan ar unrhyw adeg o unrhyw ffotograffiaeth / fideograffeg/recordio sain ymlaen llaw; Rhowch wybod i aelod o dîm Awen. Mae gennych chi hefyd yr hawl i wrthwynebu, naill ai cyn, neu unrhyw bryd ar ôl i'r ddelwedd gael ei chreu. Pan fydd gwrthwynebiadau yn cael eu codi wedi hynny, anfonwch e-bost at marketing@awen-wales.com
Rhannu eich gwybodaeth
Bydd yr wybodaeth yr ydych chi’n ei rhoi i ni yn cael ei thrin yn gyfrinachol. Efallai y byddwn yn datgelu’ch gwybodaeth i drydydd partïon eraill sy'n gweithredu ar ein rhan at y dibenion sydd wedi’u nodi yn y polisi hwn, at ddibenion sydd wedi’u cymeradwyo gennych chi, o ran rheoli trefniant contractiol neu yn ôl y gyfraith, gan gynnwys i gyflenwyr sy'n darparu’n gwasanaethau marchnata, ariannol, tocynnau, rheoli llyfrgelloedd (gan gynnwys Spektrix, SirsiDynix, Secure My Booking, crowdEngage, Dotdigital, Mailchimp, Pipedrive, Catersoft a Little Hotelier), Partneriaid y Llywodraeth Leol neu gyrff proffesiynol a meddalwedd sy'n gysylltiedig â rheoli’ch cyflogaeth.
Mae gwybodaeth yn cael ei storio ar y gweinyddwyr sy’n cael eu defnyddio gan drydydd partïon sydd wedi’u dewis yn ofalus ac efallai y byddant wedi'u lleoli y tu mewn i'r DU neu'r Ardal Economaidd Ewropeaidd , neu'r tu allan iddynt.
Rydym ond yn dewis partneriaid y gallwn ymddiried ynddynt. Byddwn ond yn trosglwyddo data personol os ydynt wedi llofnodi contract sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud y canlynol:
cydymffurfio â gofynion deddfwriaeth diogelu data;
trin eich gwybodaeth mor ofalus ag yr ydym ni;
defnyddio'r wybodaeth at y dibenion y cafodd ei darparu ar eu cyfer yn unig; a
chaniatáu i ni wirio i sicrhau eu bod yn cyflawni’r holl bethau hyn.
Am ba hyd yr ydym yn cadw eich gwybodaeth
Rydym yn adolygu ein cyfnodau cadw data bob 2 flynedd a byddwn ond yn cadw eich data personol cyhyd ag sy'n angenrheidiol ar gyfer y gweithgaredd perthnasol, neu fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith (efallai y bydd yn ofynnol yn gyfreithiol i ni gadw rhai mathau o wybodaeth), neu fel sydd wedi’i nodi mewn unrhyw gontract perthnasol sydd gennym ni gyda chi.
Eich hawliau chi
Ar unrhyw adeg, mae gennych yr hawl i:
- Gofyn am fynediad i'ch data personol (yn aml wedi’i alw’n 'gais gwrthrych data'). Mae hyn yn eich galluogi chi i dderbyn copi o'r data personol sydd gennym ni amdanoch chi a chadarnhau ein bod yn ei brosesu'n gyfreithlon;
- Gofyn i ni gywiro unrhyw wybodaeth anghyflawn neu anghywir sydd gennym amdanoch chi;
- Gofyn am ddileu eich data personol, lle nad oes rheswm da i ni barhau i'w brosesu.
- Gwrthwynebu ein bod yn prosesu eich data personol lle’r ydym yn dibynnu ar sail gyfreithlon ddilys.
- Gofyn am gyfyngu ar brosesu eich data personol, er enghraifft wrth i ni wirio ei gywirdeb neu'r rheswm dros ei brosesu.
- Gofyn am drosglwyddo eich data personol i barti arall (cludadwyedd data).
- Tynnu'ch caniatâd yn ôl (e.e. at ddibenion marchnata) ar unrhyw adeg.
Os hoffech arfer unrhyw un o'ch hawliau uchod, cysylltwch â support@awen-wales.com
Os hoffech wneud cwyn am sut yr ydym wedi trin eich data personol, gallwch gysylltu â'n Pennaeth Pobl a fydd yn ymchwilio i'r mater.
Os nad ydych yn fodlon â'n hymateb neu'n credu nad ydym yn prosesu eich data personol yn unol â'r gyfraith, gallwch gwyno wrth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).
Ein Pennaeth Pobl yw Helen Cook a gallwch gysylltu â hi yn
Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen
Tŷ Bryngarw
Parc Bryngarw
Pen-y-bont ar Ogwr
CF32 8UU
Diogelwch Data
Rydym wedi rhoi mesurau diogelwch priodol ar waith i atal eich data personol rhag cael ei golli’n ddamweiniol, ei ddefnyddio neu’i gyrchu'n mewn ffordd anawdurdodedig, ei newid neu’i ddatgelu.
Rydym wedi ein hymrwymo i sicrhau bod eich data personol yn ddiogel. Er mwyn atal mynediad neu ddatgeliadau anawdurdodedig, rydym wedi rhoi gweithdrefnau ffisegol, electronig a rheolaethol ar waith i ddiogelu a sicrhau'r wybodaeth yr ydym yn ei chasglu ar-lein rhag cael ei cholli, ei chamddefnyddio neu’i newid.
Mae enghreifftiau o'n diogelwch yn cynnwys:
- Dim ond personél awdurdodedig sy'n gallu cael mynediad at wybodaeth am ddefnyddwyr, ac rydym yn defnyddio technoleg diogelwch safonol y diwydiant (megis TLS / SSL, ond heb fod yn gyfyngedig iddo) i amgryptio data ariannol a phersonol yr ydych chi'n ei fewnbynnu cyn iddo gael ei anfon atom dros y rhyngrwyd.
- Bydd trydydd partïon ond yn prosesu eich data gyda’n cytundeb ac yn unol â chontractau.
- Mynediad at systemau a gwybodaeth wedi’i reoli drwy lefelau a phrosesau awdurdodedig.
- Lle bo angen, byddwch yn cael cyfrinair sy'n caniatáu mynediad i systemau penodol sy'n dal data personol, eich cyfrifoldeb chi yw cadw'r cyfrinair hwn yn ddiogel a pheidio â'i rannu ag unrhyw un.
- Rydym yn hyfforddi’n staff i'w gwneud yn ymwybodol o sut i drin gwybodaeth a beth i'w wneud pan fydd pethau'n mynd o’u lle.
- Mae gwybodaeth ond yn cael ei chadw cyhyd ag y bod ei hangen arnom, oni bai bod angen ei chadw at ddibenion cyfreithiol neu i sicrhau na fyddwn ni’n cysylltu â chi os ydych chi wedi gofyn i ni beidio â gwneud hynny.
- Mae data personol cwsmeriaid ond yn cael ei gadw cyhyd ag y bydd angen i ni ddarparu nwyddau, gwasanaethau neu wybodaeth i chi.
- O ran ymgeiswyr am swyddi, mae gwybodaeth bersonol / categori arbennig gysylltiedig yn cael ei chadw am gyfnod o 6 mis.
- Delweddau teledu cylch cyfyng – Bydd recordiadau digidol arferol yn cael eu cadw am gyfnod o 31 diwrnod ar yriant caled neu ddisg, ac yna byddwn yn recordio drostynt.
- Ac eithrio at ddibenion tystiolaethol, ni fydd delweddau teledu cylch cyfyng yn cael eu copïo. Mae'r holl ddeunydd wedi’i recordio sy’n cael ei ddarparu fel tystiolaeth yn cael ei drin yn unol â'r gweithdrefnau sydd wedi’u diffinio o dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (PACE).
- Os ydych chi'n prynu’ch tocynnau trwy Spektrix ar-lein, mae ein tudalennau archebu wedi'u hamgryptio i safon uchel, sy'n golygu bod eich gwybodaeth yn ddiogel ac wedi'i diogelu rhag colled neu gamddefnyddio.
Mae ein System Rheoli Llyfrgell SirsiDynix hefyd yn defnyddio technegau amgryptio ac atal ymyrraeth modern.
Rydym wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o dorri data personol a byddwn yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol am doriad lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.
Newidiadau i'n Polisi Preifatrwydd
Bydd unrhyw newidiadau yr ydym yn eu gwneud i'n polisi preifatrwydd yn y dyfodol yn cael eu rhoi ar y dudalen hon a, lle bo'n briodol, byddwn yn rhoi gwybod i chi amdanynt drwy e-bost.
Cysylltu â ni
Dylai unrhyw gwestiynau yn ymwneud â'r polisi hwn a'n harferion preifatrwydd gael eu hanfon at support@awen-wales.com